top of page
report released

symud ymlaen 2

14/02/2024

moving forward

coeden.png

Simplifying structures across Wales and the Southern Marches.

short cut to constitution v23 here

2023 - 2024
 

..and here we are at last at the beginning of the end.  Now all four Area Meetings and Crynwyr Cymru (CCQW) have each agreed to bring their administrative structures together into a single Charitable Incorporated Organisation. Thus freeing us all from duplicating the roles we have been called upon  to fill as members of individual charities. A big step towards simplifying our processes.

Remember that journey we were contemplating three years ago? (see 'October 2022' below) The one across an un-explored stretch of mountains without a map. When we knew there would be obstacles but had no idea what they might be?  When we knew where we wanted to get to but were unsure if the paths chosen on the way would get us there – what obstacles we would have to deal with, how many detours may be necessary, how lost we might become. A map we would have to draw as we went along in faith that we would arrive in the end.

 

Well, we’ve made it off the mountain. What a journey. And here we are now, at the beginning of the last stage, all Quakers in Wales gathered together into one walking group, setting off for one last tramp to the end.

 

Like most “last stages” we know 2023 will be the most tedious and energy-sapping. This is the stage of all journeys when we move away from the mountains into the town – a plod through back streets and car parks and litter and noise – and hopefully lots of encouragement from supporters lining the route to the finishing tape and a bath and food.  Our last stage takes the form of all the legal bits, all the paperwork to be signed and sealed. All the communication with each other and with solicitors and with Friends House staff to comply with charity law and amalgamate the differing ways in which we have gone about our local ways of doing things.  Together with a lot of work to consolidate our policies and processes – to dot the i’s and cross the t’s.

 

Not the easiest stage, but we can see the finish line–  this time next year.  A line that marks the end.

 

And a beginning.

Symleiddio strwythurau ar draws Cymru a De'r Gororau.

dolen sydyn i'r cyfansoddiad v23 yma

2023 - 2024

 

... dyma ni wedi cyfnod hir braidd ar ddechrau’r diwedd. Nawr mae pob un o'r pedwar Cyfarfod Ardal a Crynwyr Cymru wedi cytuno i ddod â'u strwythurau gweinyddol ynghyd yn un Sefydliad Corfforedig Elusennol. Mae hyn yn ein rhyddhau ni i gyd rhag dyblygu'r swyddogaethau y mae gofyn i ni eu cyflawni fel aelodau o elusennau unigol. Cam mawr tuag at symleiddio ein prosesau.

 

 

Ydach chi’n cofio’r daith honno yr oeddem yn ei hystyried dair blynedd yn ôl? (gw. 'Hydref 2022' isodYr un dros fynyddoedd heb gymorth map. Gwyddem y byddai rhwystrau ond heb syniad beth gallent fod? Gwyddem i ble’r oeddem am gyrraedd ond yn ansicr a oeddem wedi dewis y llwybrau cywir i gyrraedd yno – pa rwystrau fyddai o’n blaenau, sawl gwaith yn byddem yn dargyfeirio, ac i ba raddau y gellid mynd ar goll. Map y byddai'n rhaid i ni ei llunio wrth i ni fynd ymlaen, mewn ffydd y byddem yn cyrraedd yn y pen draw.

Wel, mae’r mynydd y tu ôl i ni. A dyna chi daith! A dyma ni yn awr, ar ddechrau’r cam olaf, holl Grynwyr Cymru wedi ymgasglu ynghyd yn un grŵp cerdded, gan gychwyn am un tramp olaf hyd y diwedd.

 

Fel y mwyafrif o “gamau olaf” rydan ni'n gwybod mai 2023 fydd y mwyaf diflas a blinderus. Dyma’r cam ym mhob taith pan fyddwn yn symud o’r mynyddoedd tua’r dref – ymlwybro drwy strydoedd cefn a meysydd parcio a sbwriel a sŵn – a’r gobaith y bydd anogaeth gan gefnogwyr ar hyd y llwybr i’r linell derfyn - a bath, a bwyd. Mae ein cam olaf yn ystyried yr holl elfennau cyfreithiol, yr holl waith papur i'w lofnodi - cyfathrebu gyda’n gilydd a gyda chyfreithwyr a staff Friends House i gydymffurfio â’r gyfraith elusennau i gyfuno’r gwahanol ffyrdd yr ydym wedi mynd o gwmpas ein gwahanol ddulliau lleol o weithredu. Hyn ynghyd â llawer o waith i gryfhau ein polisïau a’n prosesau – i roi dot ar bob ‘i’ a chroes ar bob ’t'.

 

Nid hwn yw’r cam hawsaf, ond mae’r linell derfyn mewn golwg - yr adeg hon y flwyddyn nesaf. Llinell sy'n nodi'r diwedd.

A dechreuad.

October 2022

This is the text of the website when it first appeared, heaving forward the result of our labours in the previous year or two. The 'January 2023' piece above makes reference to it.

 

Well, here it is!  Tasked with the job of working out how we can free ourselves to get on with our visions of what we want to be as Quakers across Wales and the Marches, this is how we think we can best do it.

 

You asked 12 of us, drawn from each of the four AMs and from Crynwyr Cymru, to have a go at this, and after a little over three years of focused concentration on the detailed whys and wherefores, with a fair amount of help from individual co-opted Friends, we think we’ve found the way.

 

It’s been a bit like mapping a new path through a challenging landscape, with our only help being an old, no longer fit for purpose, map. On the way we have found rocky patches to puzzle our way round….  and the odd alarming landslip to make us think again. We have from time- to- time doubled back to camp to check you’re still with us – taking on board your qualms and questions about the viability of the route we’re testing.

 

There’s a lot of detail here in the attached proposals – and the eyes of some of us may well glaze over at the sight of all the contour lines. (Ours certainly did at times). While some of us will want to study the contours closely and query details before setting out, others of us may find it easier to get a sense of the overall picture of the route and work back from there. Don’t worry – that’s what the diagrams are for - hopefully understandable at a glance.

 

Each part of our route is introduced by an explanation of how we propose to traverse it. You will know who your AM’s two reps on the group are (or your clerk will) and they should be able to clarify anything – or at least where to go to find out. So, if you’re feeling unsure, talk to them.

 

And remember – the basic aim of all this is to free ourselves to travel the path of our individual spiritual lives, and work together in our local meetings to realise our Quaker vision, without being side-tracked by the interminable, and often suffocating, demands of the bureaucracy with which we have saddled our individual AMs over the years.

 

So – here are our proposals. Over to you.

Hydref 2022

 

Dyma destun gwreiddiol y safle we, yn llusgo ger eich bron ganlyniad yr hyn a gyflawnwyd yn y flwyddyn neu ddwy cynt. Mae'r darn 'Ionawr 2023' uchod yn cyfeirio ato.

 

Wel, dyma nhw! Cawsom y dasg o weithio allan sut y gallwn ryddhau ein hunain i fwrw ymlaen â'n gweledigaeth o'r hyn yr ydym yn dymuno bod fel Crynwyr ledled Cymru a'r Gororau, a dyma yn ein barn ni, y ffordd orau i wneud hynny

 

Gofynwyd i 12 ohonom, o bob un o’r pedwar Cyfarfod Ardal ac o Crynwyr Cymru, i roi cynnig ar hyn, ac ar ôl dros dair blynedd o ganolbwyntio ar ddatblygu a hwyluso’r manylion, gyda chryn dipyn o gymorth gan gydweithwyr a Chyfeillion unigol, rydym yn credu ein bod wedi dod o hyd i'r ffordd ymlaen.

 

Mae wedi bod yn debyg i greu map o lwybr newydd drwy dirwedd heriol, a’n hunig gymorth oedd hen fap nad oedd bellach yn addas i’r diben. Ar hyd y ffordd rydym wedi dod o hyd i glytiau creigiog y bu rhaid i ni ganfod ffordd o’u cwmpas …. ac ambell i dirlithriad brawychus i wneud i ni feddwl eto. O bryd i’w gilydd rydym wedi troi yn ein holau yn ôl i’r gwersyll i wneud yn siŵr eich bod chi’n dal i fod gyda ni – gan ystyried eich pryderon a holiadau am addasrwydd y llwybr yr ydym yn ei brofi.

 

Mae llawer o fanylion yn yr argymhellion hyn – ac mae’n ddigon posib y bydd meddwl rhai yn crwydro wrth weld y tirwedd, fel petai. (Yn sicr fe ddigwyddodd i mi ar adegau). Er y bydd rhai ohonom eisiau astudio’r tirwedd yn fanwl a chwestiynu’r cyfarwyddiadau cyn cychwyn, bydd eraill, efallai, yn ei chael yn haws cael ymdeimlad o’r darlun cyffredinol, a gweithio yn ôl oddi yno. Peidiwch â phoeni – dyna ddiben y diagramau – ar gipdrem, gobeithio.

 

Mae cyflwyniad i bob rhan o'n llwybr mewn esboniad o sut yr ydym yn bwriadu ei throedio. Gan eich bod yn gwybod pwy yw dau gynrychiolydd eich Cyfarfod Ardal ar y grŵp (neu’r clerc o leiaf) a dylent allu egluro unrhyw beth – neu o leiaf ble i fynd i gael gwybod. Felly, os ydych chi'n teimlo'n ansicr, siaradwch â nhw.

 

A chofiwch – amcan sylfaenol hyn oll yw rhyddhau ein hunain i droedio llwybr ein bywydau ysbrydol ein hunain, a chydweithio yn ein cyfarfodydd lleol i wireddu gweledigaeth y Crynwyr, heb gael ein llethu gan alwadau diddiwedd y fiwrocratiaeth sydd wedi bod yn faich ar ein cyfarfodydd Ardal dros y blynyddoedd.

 

 

Felly – dyma nhw ein cynigion. Drosodd i chi.

Alan Clark

Ann Davidson

Diana Morrison-Smith

Erica Thomas

Frances Voelcker

Gerry Craddock

Helen Oldridge

Huw Meredydd Owen

Jeff Beatty

Lesley Richards

Peter Davies

preface

to the documents

 

a short account of how these documents have come about and have evolved

rhagair

i'r dogfennau

cyfri cryno o sut y daeth y dogfennau hyn i fod a sut mae nhw wedi datblygu

memorandum of understanding

general

property

eiddo

draft constitution

 

version 32 14-02-2024

This version of the Constitution is current, but not quite in its final form.

drafft o'r cyfansoddiad 

 

fersiwn 32 14-02-2024

Mae'r fersiwn hwn o'r Cyfansoddiad yn gyfredol, ond ddim eto yn ei ffurf derfynnol.

archive

Older documents created during the discussions over the last three years, that may be of interest

archif

dogfennau hŷn a luniwyd yn ystod y drafodaeth y dair mlynedd ddiwethaf, y gallai fod o ddiddordeb

This website has been prepared and is administered by the Symud Ymlaen / Moving Forward group established to consider simplification and better governance in Wales and the Southern Marches

It is intended solely as a platform for the shared documents under consideration, and for the purposes of consultation and discernment.

Clerk: Lesley Richards

for any technical issues regarding the website you may contact us at

 

symudymlaen2@gmail.com

 

Paratowyd y safle we hon, ac fe'i gweinyddir, yn llwyr gan bwyllgor Symud Ymlaen a sefydlwyd ar gyfer ystyried symleiddio a darparu llywodraethiant gwell yng Nghymru a De'r Gororau.

Ei unig bwrpas yw bod yn lwyfan i rannu'r dogfennau dan ystyriaeth, ac at bwrpas ymghynghoriad a dirnadaeth.

Clerc: Lesley Richards

os oes unrhyw anhawster techengol gyda'r safle we, gallwch gysylltu â ni ar

 

symudymlaen2@gmail.com

© 2022, 2023

THE RELIGIOUS SOCIETY OF FRIENDS (QUAKERS)

© 2022, 2023

CYMDEITHAS GREFYDDOL Y CYFEILLION (CRYNWYR)

bottom of page